Y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd

 

Cofnodion

 

 

Statws: Cymeradwywyd gan y cyd-Gadeiryddion

 

Dyddiad y cyfarfod

3 Rhagfyr 2013

 

Yn bresennol:

Rebecca Evans AC (Llafur Cymru Ð cyd-Gadeirydd), Mark Isherwood AC (Ceidwadwyr Cymreig Ð  cyd-Gadeirydd), Paul Swann  (Anabledd Cymru - Ysgrifennydd), Rhian Davies (Anabledd Cymru), Fiona McDonald (Anabledd Cymru), Trevor Palmer (Anabledd Cymru), Ruth Coombs (Mind Cymru), Jennie Lewis, Ruth Crowder (Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol), Paul Sourfield (Cyngor Bro Morgannwg), Ele Hicks (Diverse Cymru), Sue Dye (Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol), Peter Jones (Cŵn Tywys Cymru), Clive Emery (Enterprising Employment), Owen Williams (Vision in Wales), Julie Thomas (BridgeVIS), Bill Scott (Inclusion Scotland), Heather Fisken (BywÕn Annibynnol yn yr Alban), Hilary Third (Llywodraeth yr Alban), Tracey Good (Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG), Richard Williams (Action on Hearing Loss), Rob Wilson (Sefydliad Rowan), Ruth Dineen (Coproduction Cymru), Anne Collis (Barod), Mal Cansdale (Barod), Alan Armstrong (Barod), Jonathan Richards (Barod), Tom Raines (T”m Datblygu Cenedlaethol ar gyfer Cynhwysiant), Matthew OÕGrady (Tai Pawb), Bob Gunston, Karen Warner (Anabledd Dysgu Cymru).  

 

Ymddiheuriadau

Simon Thomas AC, Bethan Jenkins AC, Kirsty Williams AC, Norman Moore (Cyngor Cymru i Bobl Fyddar), Jim Crowe (Anabledd Dysgu Cymru).

 

1.

Croeso a chyflwyniadau

Croesawodd Mark Isherwood AC y grŵp iÕr cyfarfod ac i ddiwrnod o ddigwyddiadau i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Pobl Anabl y Cenhedloedd Unedig. Eglurodd mai fformat y cyfarfod fyddai trafod yr eitemau busnes yn gyntaf, ac yna ceir tri chyflwyniad.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf (18 Hydref 2013) a materion yn codi

Cytunwyd bod y cofnodion yn gywir.

 

Materion yn codi

Darllenodd Paul Swann drwyÕr rhestr o gamau a oedd yn deillio oÕr cyfarfod diwethaf.

 

Cadarnhaodd Paul Swann fod y wybodaeth ÔTalking PointsÕ, y datganiad ysgrifenedig ar y Fframwaith ar gyfer Gwasanaethau Eirioli gan y Dirprwy Weinidog, aÕr cynnig drafft o ran gwelliannau iÕr papur Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wedi cael eu dosbarthu.

 

Recordiadau o asesiadau Taliadau Annibyniaeth Bersonol (PIP)

 

Nododd  Paul Swann ei fod wedi ysgrifennu at yr Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch recordiadau clywedol o asesiadau PIP, a chafwyd ymateb gan James Bolton, y Dirprwy Brif Gynghorydd Meddygol, a darllenodd Paul Swann brif bwyntiauÕr llythyr .

 

Yn ychwanegol, dywedodd Paul Swann fod y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd hefyd wedi ysgrifennu at y Gweinidog, Esther McVay am yr un mater. Cafwyd ymateb, ac unwaith eto, darllenodd Paul Swann brif bwyntiauÕr llythyr. 

 

Capita Tower

Eglurodd Paul Swann, yn y cyfarfod diwethaf, fod mater wediÕi nodi ynghylch hygyrchedd adeilad yr Adran Gwaith a Phensiynau, Capita Tower yng Nghaerdydd. Cytunodd RE i ddilyn hynt y cais, nad oedd wediÕi ateb, am gopi oÕr archwiliad oÕr mynediad iÕr adeilad. Yn ystod y broses hon, darganfuwyd mai ynghylch yr adeilad yn Abertawe yr oedd y pryder, ac nid Caerdydd. Caiff hyn ei gywiro a chaiff y mater ei ddilyn ymhellach.

 

Datganiad Barn

Cadarnhaodd Paul Swann fod RE wedi dosbarthu Datganiad Barn ar gyfer recordiadau clywedol a chlywedol-weledol o asesiadau PIP a darllenodd y Datganiad iÕr grŵp. Mae 10 o AelodauÕr Cynulliad wedi llofnodi a chefnogiÕr Datganiad.

 

Llythyr y  Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd at y Gweinidog newydd   

Gofynnwyd i Paul Swann ysgrifennu at y Gweinidog newydd i nodi pryderon y grŵp ynghylch asesiadau PIP. Cadarnhaodd bod y llythyr wedi cael ei ddrafftio, aÕi gymeradwyo gan RE a MI, ac y caiff ei anfon o fewn y dyddiau nesaf.

 

Cosb am beidio ‰ defnyddio ystafelloedd gwely  

Codwyd pryderon, yn y cyfarfod diwethaf, am y diffyg tai un ystafell wely sydd ar gael ar gyfer pobl syÕn dymuno symud i gartref llai o faint i osgoiÕr dreth a elwir y Ôdreth ystafell welyÕ. Fodd bynnag, oherwydd prinder amser, ni lwyddwyd i drafod y mater yn llawn. Fodd bynnag, yn y cyfamser, roedd t”m RE wedi gwneud gwaith ymchwil a oedd yn nodi, bod gan ddarparwyr tai i dros 20,000 o aelwydydd yr effeithir arnynt gan gosbau peidio ‰ defnyddio eu hystafelloedd gwely ddim ond 280 o eiddo un ystafell wely ar gael ar hyn o bryd ar gyfer pobl sydd am symud i gartref llai o faint.

 

Cyhoeddodd RE ddatganiad iÕr wasg i nodi hyn ym mis Hydref.

 

Mae RE hefyd wedi cyhoeddi datganiad iÕr wasg ynghylch recordiadau o asesiadau PIP.

 

Fforwm Darparwyr Gwasanaethau Eiriolaeth

Roedd  Paul Swann yn aros am wybodaeth am fforwm Darparwyr Gwasanaethau Eiriolaeth plant a phobl ifanc

 

Cafodd Paul Swann y dasg o ddosbarthuÕr linc i welliannau Llywodraeth Cymru iÕr Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Nododd Paul nad oedd hyn wediÕi wneud eto, ond y bydd yn gwneud hyn ar ™l y cyfarfod heddiw.

 

Yn y cyfarfod diwethaf, roedd RE wedi cynnig dod o hyd iÕr wybodaeth ynghylch faint o bobl a oedd yn cael arian oÕr Gronfa BywÕn Annibynnol cyn 1993. Roedd y canlyniadau yn dangos bod 183 o bobl yn fras.

 

3.

CYFLWYNIADAU

 

Thema Diwrnod Rhyngwladol  y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Anabl 2013 Ð Rhian Davies

Rhoddodd Rhian Davies grynodeb oÕr digwyddiadau i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Anabl. Yna rhoddodd gyflwyniad ar y thema ar gyfer y diwrnod eleni, sef ÔChwalu rhwystrau, agor drysau: er mwyn sicrhau y ceir cymdeithas gynhwysol i bawbÕ. Soniodd am y rhwystrau sydd, ac am y pethau a gafodd eu cyflawni ers i  Ddiwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Anabl gael ei ddathlu am y tro cyntaf yn y 90au.

 

4.

Cronfa Byw'n Annibynnol Ð GoblygiadauÕr her gyfreithiol lwyddiannus Ð Paul Swann

Rhoddodd Paul Swann wybod iÕr grŵp am y pryder parhaus ynghylch y gronfa bywÕn annibynnol. Gorffennodd ei sgwrs drwy ddweud maiÕr sefyllfa ar hyn o bryd yw bod y Llywodraeth heb benderfynu a yw am barhau ‰Õr Gronfa. Gofynnodd a oedd y Grŵp Trawsbleidiol yn teimlo yr hoffent ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol Dros Bobl Anabl i fynegi eu barn yng ngoleuni penderfyniad y Llys Apl. Cytunwyd ar hynny. Bydd MI, RE a PS yn drafftio ymateb.

 

Cam iÕw gymryd: MI, RE a PS i ddrafftio ymateb iÕr Ysgrifennydd Gwladol Dros Bobl Anabl i fynegi barn y Grŵp.

 

5.  

Anabledd a Threchu Tlodi Ð Vaughan Gething AC

Ar y pwynt hwn, daeth Vaughan Gething AC iÕr cyfarfod, a soniodd am anabledd a thlodi. Tynnodd sylw at yr effaith a gaiff Diwygio Lles ar bobl anabl, ar y Gwasanaethau Cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gorau i liniaruÕr effeithiau niweidiol yng Nghymru. Ychwanegol y byddant yn parhau i gefnogi rhai syÕn cael arian o'r Gronfa Byw'n Annibynnol yng Nghymru i fyw yn annibynnol, beth bynnag fydd y penderfyniad ynghylch dyfodol y Gronfa. Mynegodd ei gefnogaeth hefyd iÕr Grant Cymorth Cyflogaeth, a sefydlwyd i gynorthwyo cyn staff Remploy a gollodd eu swyddi, i ddychwelyd i weithio.

 

Ymatebodd y Dirprwy Weinidog i nifer o gwestiynau cyn gadael y cyfarfod.

 

6.

Cydraddoldeb, Cynhwysiant a BywÕn Annibynnol yn yr Alban Ð Hilary Third (Uned Cydraddoldeb Llywodraeth yr Alban), Heather Fisken (ILiS Ð BywÕn Annibynnol yn yr Alban) a Bill Scott (Inclusion Scotland)

Dechreuodd Hilary Third ar y cyflwyniad drwy nodi cyd-destun y cyflwyniadau, cyn trosglwyddoÕr awenau i Heather Fisken a Bill Scott a roddodd enghreifftiau ymarferol oÕr gwaith y maent ill dau wedi ymwneud ag ef.

 

Roedd y cyflwyniad yn manylu ar eu dull gweithredu o ran bywÕn annibynnol; yn nodi beth ywÕr sefyllfa ar hyn o bryd, a beth fyddai eu sefyllfa ddelfrydol. Canolbwyntiodd Heather Fisken ar bwysigrwydd  cael adborth a mewnbwn gan y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau yn ogystal ‰ chan y bobl sy'n eu darparu, a nododd rai enghreifftiau. Eglurodd Bill Scott bod Inclusion Scotland yn chwaer-sefydliad i Disability Wales. Sefydliadau cenedlaethol ywÕr ddwy ar gyfer Pobl Anabl a ch‰nt eu hariannu gan yr Uned Cydraddoldeb. Maent wedi gweithio ar y Bil Gofal Cymdeithasol Hunangyfeiriedig yn yr Alban ac roedd yn falch o gael nodi hynny am y tro cyntaf, bod hawliau penodol ar fyw yn annibynnol wediÕu cadw am byth mewn deddfwriaeth Brydeinig.

 

7.

Unrhyw fater arall

Nid oedd unrhyw fusnes pellach iÕw drafod.

 

8.

Dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol a them‰uÕr cyfarfodydd, gan gynnwys y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

 

11 Mawrth 2014, 6.30pm yn y Pierhead, Bae Caerdydd. Thema Ð ÔCyflogaethÕ.

Atgoffodd Paul Swann y grŵp mai un cam a oedd yn deillio oÕr cyfarfod diwethaf oedd i wahodd Jeff Cuthbert AC i fod yn bresennol. Cytunodd y grŵp y dylid gwneud hynny.

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Cynhelir y cyfarfod cyffredinol blynyddol ar ddechrau cyfarfod arferol, fel eitem ar yr agenda. Bydd dyddiad ac amser y cyfarfod yn cael ei gadarnhau.